Cymraeg
GamCare yw’r prif ddarparwr gwybodaeth, cyngor a chymorth i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan gamblo cymhellol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Rydyn ni’n cynnig cymorth i gamblwyr yn ogystal ag aelodau o’r teulu a ffrindiau sydd wedi cael eu heffeithio gan gamblo rhywun arall.
GamCare sy’n rhedeg y Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol, y gallwch ei ffonio ar Radffôn 0808 8020 133. Bydd ein cynghorwyr yn gwrando arnoch chi ac yn trafod yr holl opsiynau cymorth sydd ar gael i chi, naill ai dros y ffôn, yn bersonol neu ar-lein, yn ogystal â chynnig strategaethau ymdopi i’r rheini sydd am newid eu hymddygiad gamblo.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael mewn ieithoedd eraill – dywedwch wrth yr ymgynghorydd pa iaith rydych chi am ei siarad a byddan nhw’n gallu eich cysylltu â’n gwasanaeth Cyfieithu, LanguageLine.
Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o driniaeth cwnsela am ddim ledled Prydain Fawr, ac os hoffech fanteisio ar yr opsiwn hwn, gallech ofyn i gyfieithydd fynd gyda chi i’r sesiynau. Bydd ein cynghorwyr ar y Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol yn gallu dod o hyd i’r gwasanaethau sydd agosaf atoch chi.
Mae ein Fforwm ar-lein a’n hystafelloedd sgwrsio dyddiol sydd wedi’u cymedroli ar gael bob dydd hefyd er mwyn i chi allu siarad â phobl eraill sy’n wynebu problemau tebyg i chi a gofyn iddynt am gymorth. Os byddai’n well gennych chi gael cymorth ar-lein mewn iaith arall, ewch i www.gamblingtherapy.org am ragor o wybodaeth – mae’r gwasanaethau hyn ar gael y tu allan i’r DU hefyd.
Gallwch ddefnyddio Google Chrome i gyfieithu unrhyw rai o’r tudalennau ar y wefan hon – am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen gymorth hon gan Google.